English

‘Dewisiadau Craffach’ – Newid Ymddygiad er Teithio Cynaliadwy

 

Synthesis of LSTF evidence_cover_image

Impact of the Local Sustainable Transport Fund: Synthesis of Evidence

Mae canfyddiadau o'r holl werthusiadau, astudiaethau achos ac adroddiadau o raglen LSTF £600 miliwn 2011-2015 yn cael eu cyfuno a'u hadolygu yn yr adroddiad hwn. Ymhlith y llwyddiannau sy'n deillio o'r 12 Prosiect Mawr a oedd yn ganolbwynt y rhan fwyaf o werthusiad mae: gostyngiad o 2.3 pwynt canran mewn cyfaint traffig y pen o'i gymharu ag awdurdodau cymharol; 6.6 pwynt canran cynnydd mewn seiclo o'i gymharu ag awdurdodau cymharol; 2.2 pwynt canran gostyngiad mewn allyriadau carbon deuocsid o'i gymharu ag awdurdodau cymharol.

Lawrlwytho:  Impact of the LSTF: Synthesis of Evidence (Saesneg yn unig) [4Mb]

 

Synthesis of LSTF evidence_cover_image

Meta-analysis of the Outcomes of Investment in the 12 Local Sustainable Transport Fund Large Projects: Final Report

Monitrodd a gwerthusodd y 12 'Prosiectau Mawr' a dderbyniodd fwy na £ 5m yr un o'r Gronfa Cludiant Cynaliadwy Lleol gwerth £ 600 miliwn 2011-2015 eu gweithgareddau. Mae'r adroddiad hwn yn ystyried yn fanwl y dystiolaeth a gasglwyd, sy'n cwmpasu, ymysg pethau eraill, gostyngiadau mewn defnydd cerbyd, cynnydd mewn beicio a gostyngiadau mewn carbon deuocsid.

Lawrlwytho: Meta-analysis of LSTF Large Projects final report (Saesneg yn unig) [14Mb]

 

 

What Works LSTF report_cover_image

What Works? Learning from the Local Sustainable Transport Fund 2011-2015

Mae'r adroddiad hwn yn crynhoi gwersi gan y rhaglen pedair blynedd £600m Department of Transport o fuddsoddiad mewn trafnidiaeth gynaliadwy yn Lloegr. Mae'n tynnu ar drafodaethau strwythuredig gyda'r ymarferwyr awdurdodau lleol a weithredodd y Local Sustainable Transport Fund i ddysgu sut i roi ar waith gweithgareddau tebyg yn y dyfodol, gan ystyried lefel prosiectau lleol a lefel yr rhaglen genedlaethol. Mae'n edrych ar yr hyn a weithiodd, yr hyn a fethodd i weithio, a sut cafodd yr anawsterau eu goresgyn. Mae'r adroddiad hefyd yn crynhoi gweithgareddau a themâu mawr y Gronfa. Mae'n adnodd hanfodol ar gyfer swyddogion cyngor, cynghorwyr, LEPs a rheolwyr cenedlaethol o rhaglenni i wella a hyrwyddo teithio cynaliadwy, gan gynnwys yr DfT Access Fund.

Lawrlwytho:  What Works Main Report (Saesneg yn unig) [6Mb, 73 tudalen]

Lawrlwytho: What Works Companion Appendices (Saesneg yn unig) [3Mb, 75 tudalen]

Cynhyrchodd Trafnidiaeth er Bywyd o Safon hefyd Adroddiadau Blynyddol ar gyfer y tair blynedd ddiwethaf y Local Sustainable Transport Fund efo manylion am weithgareddau a llawer o enghreifftiau. Cliciwch ar y lluniau isod i lawrlwytho:

What Works LSTF report_cover_image

What Works LSTF report_cover_image

What Works LSTF report_cover_image

 

 

 

 

 

 Adroddiad 2014/15                   Adroddiad 2013/14                   Adroddiad 2012/13 

 

Gwerthuso effeithiau dewisiadau craffach yn y Trefi Teithio Cynaliadwy

Bu Trafnidiaeth er Bywyd o Safon yn arwain astudiaeth o bwys ar ran yr Adran Drafnidiaeth i werthuso effeithiau Rhaglenni Dewisiadau Craffach graddfa fawr yn y Trefi Teithio Cynaliadwy. Roedd y gwaith hwn yn cynnwys casglu corff mawr o ddata ynghyd a’i ddadansoddi’n drylwyr, er mwyn gwerthuso’r effaith ar ddefnyddio’r car a moddau eraill o deithio, a deall yr effeithiau tebygol ar allyriadau carbon, tagfeydd a gweithgarwch corfforol o ganlyniad i hwb sylweddol i fuddsoddi mewn mesurau craff.  Y tu mewn y Trefi Teithio Cynaliadwy a'r ardaloedd o'u cwmpas cwympodd dripiau gyrrwyr car 9% a chwympodd filtiroedd gyrrwyr car 5-7%. Gwneir argymhellion ynglŷn â sut gellid newid ymddygiad teithio i’r un graddau ag a gofnodwyd yn y trefi hyn, a rhagori ar hyn mewn mannau eraill.

Wedi’i ariannu gan yr Adran Drafnidiaeth (2010)

Lawrlwytho: The Effects of Smarter Choice Programmes in the Sustainable Travel Towns: Summary Report (Saesneg yn unig) [pdf 358kB]

Lawrlwytho: The Effects of Smarter Choice Programmes in the Sustainable Travel Towns: Research Report (Saesneg yn unig): Pennod 1; Pennod 2; Pennod 3; Pennod 4; Pennod 5; Pennod 6; Pennod 7; Pennod 8; Pennod 9; Pennod 10; Pennod 11; Pennod 12; Pennod 13; Pennod 14; Pennod 15; Pennod 16; Pennod 17; Pennod 18; Pennod 19; Pennod 20; Pennod 21

 

Dewisiadau Craffach ac Allyriadau Carbon

Aeth yr astudiaeth gwmpasu hon ati i werthuso’r cyfraniad y gallai mesurau craff ei wneud at leihau allyriadau carbon deuocsid, a gwerthuso’r pecyn polisïau sydd ei angen i fanteisio i’r eithaf ar y mesurau hyn. Darganfu fod mesurau craff yn cynnig dull cost-effeithiol o leihau allyriadau carbon, o’i gymharu â dulliau eraill. Cyfrannodd y darganfyddiadau at Raglen Llywodraeth y DU ar Newid yn yr Hinsawdd.

Ymgymerwyd â’r astudiaeth ar ran yr Adran Drafnidiaeth gan y tîm Dewisiadau Craffach (Trafnidiaeth er Bywyd o Safon, Coleg Prifysgol Llundain, Eco-Logica a Phrifysgol Robert Gordon). (heb ei chyhoeddi)

 

Prosiect Arddangos Newid Moddol Swydd Northampton

Bu Trafnidiaeth er Bywyd o Safon yn gweithio gydag MRC McLean Hazel ar brosiect i gynllunio pecynnau dewisiadau craffach ar gyfer trigolion datblygiadau tai newydd yn Swydd Northampton. Fe edrychodd y prosiect ar amrywiaeth o opsiynau ‘craff’ ar gyfer derbyn gwybodaeth a oedd yn fwyaf deniadol i drigolion. 

Wedi’i ariannu gan Gyngor Sir Swydd Northampton (2009)

 

Essential Guide to Travel Planning cover imageCanllaw Hanfodol i Gynllunio Teithio

Lluniodd y prosiect hwn ganllaw arfer da i hyrwyddo cynllunio teithio yn y sector corfforaethol.  Mae’r Canllaw Hanfodol yn dwyn ynghyd profiadau di-ffael busnesau sydd eisoes yn gweithredu cynlluniau teithio, gan gynnig trosolwg bywiog a llawn gwybodaeth ar yr hyn sydd ei angen arnoch i baratoi cynllun teithio a’i roi ar waith.

Wedi’i ariannu gan yr Adran Drafnidiaeth (2008)

Lawrlwytho: The Essential Guide to Travel Planning (Saesneg yn unig) [pdf 5.31MB]

 

 

Datblygu rhesymau dros newid ymddygiad teithio

Roedd y gwaith hwn yn cynnwys anerchiadau a sesiynau trafod â grwpiau ffocws mewn pedair dinas yn y DU, â’r nod o ysgogi cyfranogion i ddefnyddio llai ar eu ceir a rhoi gwybod iddyn nhw am yr opsiynau posibl sydd ar gael iddyn nhw.

Ymgymerwyd â’r gwaith hwn fel rhan o brosiect yr Adran Drafnidiaeth i asesu rhesymau dros newid ymddygiad teithio yng nghyd-destun newid yn yr hinsawdd. (2007)

 

Making Smarter Choices Work summary report cover image

Dewisiadau Craffach: Newid ein Ffordd o Deithio

Mae gan fesurau trafnidiaeth ‘craff’, megis cynlluniau teithio i’r gweithle a chynlluniau teithio personol botensial mawr i gael pobl i ddefnyddio llai ar eu ceir. Gwerthusodd yr astudiaeth hon y cyfraniad y gallai mesurau craff ei wneud dan wahanol senarios polisi. Darganfu, os rhoddir mesurau craff ar waith yn ddwys, gellir cwtogi un rhan o bump ar draffig mewn trefi, gan gwtogi llai, ond yn sylweddol er hynny, mewn ardaloedd y tu allan i drefi. Chwaraeodd yr ymchwil ran ddylanwadol yn yr adolygiad o gynllun trafnidiaeth 10 mlynedd y Llywodraeth, ac mae wedi annog awdurdodau lleol i ddatblygu eu gwaith 'dewisiadau craff’.

Comisiynodd yr Adran Drafnidiaeth yr ymchwil o bwys hon gan Drafnidiaeth er Bywyd o Safon, Coleg Prifysgol Llundain, Eco-Logica a Phrifysgol Robert Gordon. (2004)

Lawrlwytho: fersiwn gryno o Making Smarter Choices Work (Saesneg yn unig) [pdf 628Kb]

Lawrlwytho: Smarter Choices Case Studies (Saesneg yn unig) [pdf 1.28Mb]

Lawrlwytho: canllaw arfer gorau: Making Smarter Choices Work (Saesneg yn unig) [pdf 4.6Mb]

Lawrlwytho: Smarter Choices; Changing the Way We Travel (Saesneg yn unig): Pennod 1; Pennod 2; Pennod 3; Pennod 4; Pennod 5; Pennod 6; Pennod 7; Pennod 8; Pennod 9; Pennod 10; Pennod 11; Pennod 12; Pennod 13; Pennod 14

 

Offer ar gyfer Cynllunio Teithio mewn Ardaloedd Trefol: Canllaw ar gyfer Awdurdodau Lleol

Mae’r trosolwg hwn ar fesurau cynllunio teithio’n disgrifio’r offerynnau unigol a ddefnyddir wrth gynllunio teithio, sut gellir eu dwyn at ei gilydd mewn pecyn, a faint o newid y gall awdurdod lleol ei gyflawni fesul safle a ledled tref gyfan.

Cwblhawyd y prosiect ar ran Bwrdeistref Southwark yn Llundain a Phrifysgol Westminster, fel rhan o’r rhaglen Ewropeaidd OPTIMUM2. (2004)

Lawrlwytho: Tools for Travel Planning in Urban Areas (Saesneg yn unig) [pdf 305kb]

 

Gwneud i Gynlluniau Teithio i’r Ysgol Weithio

Mae mwyafrif yr ysgolion sy’n ymwneud â chynllunio teithio i’r ysgol yn llwyddo i gwtogi ar y defnydd o’r car. Mae’n beth digon cyffredin cwtogi rhyw 20% arno, ac mae rhai ysgolion yn cyflawni mwy na hyn.  Roedd y prosiect ymchwil hwn yn cynnwys 20 o astudiaethau achos trylwyr o gynlluniau teithio i’r ysgol llwyddiannus, ac aeth ati i werthuso pa ffactorau oedd y rhai pwysicaf i’w llwyddiant.

Comisiynwyd ‘Gwneud i Gynlluniau Teithio i’r Ysgol Weithio’ gan yr Adran Drafnidiaeth, a bu Carey Newson yn rheoli’r prosiect ar ran Transport 2000 Trust. Roedd tîm y prosiect yn cynnwys Coleg Prifysgol Llundain, Adrian Davis Associates, Sustrans, Cleary Hughes Associates a Thrafnidiaeth er Bywyd o Safon. (2004)

Lawrlwytho: Making School Travel Plans Work (Saesneg yn unig) [pdf 607kb]

 

Llai o Draffig lle mae Pobl yn Byw: Sut gall Cynlluniau Trafnidiaeth Lleol Helpu i Gwtogi ar Draffig

Mae’r adroddiad hwn yn delio â chynlluniau trafnidiaeth lleol, fel gwella bysiau, cynlluniau teithio a chyfleusterau seiclo gwell. Mae’n edrych ar p’un a allai’r cynlluniau hyn gwtogi ar draffig, a faint. Tan yn ddiweddar, derbyniwyd yn ein doethineb nad oedd y mesurau hyn yn effeithio rhyw lawer o gwbl ar y defnydd o’r car a bod yr effaith go iawn ar swm y traffig a thagfeydd yn ddibwys oherwydd bod gwelliannau i ffyrdd yn ysgogi mwy o draffig a bod hyn yn ei dro yn erydu unrhyw fudd. Roedd ‘Llai o Draffig lle mae Pobl yn Byw’ yn herio’r doethineb hwn, gan awgrymu y gallai cynlluniau trafnidiaeth lleol gwtogi cymaint ag un rhan o dair o bosibl ar draffig mewn ardaloedd trefol. Oherwydd ei ddarganfyddiadau, fe gomisiynodd yr Adran Drafnidiaeth ymchwil Dewisiadau Craffach.

Ariannwyd yr astudiaeth hon trwy Gymrodoriaeth yr Amgylchedd Adeiledig oddi wrth Gomisiwn Brenhinol Arddangosfa 1851. (2003)

Lawrlwytho: Less Traffic where People Live (Saesneg yn unig) [pdf 876kb]

 

Annog newid mewn ymddygiad trwy farchnata a rheoli: beth gellir ei gyflawni?

Mae’r papur hwn yn edrych ar gynlluniau teithio i’r gweithle ac i’r ysgol, cynlluniau teithio personol, marchnata a gwybodaeth am fysiau, a chlybiau ceir gan grynhoi effaith eu rhoi ar waith yn ddwys ar y defnydd o’r car.

Cyflwynwyd y papur i’r 10fed Gynhadledd Ryngwladol ar Ymchwil i Ymddygiad Teithio, Lucerne, Awst 2003. (P Jones ac L Sloman, 2003)

Lawrlwytho: Jones & Sloman 2003 (Saesneg yn unig) [pdf 367kB]