Macro-polisi – Symud i System Drafnidiaeth Gynaliadwy
Salwch Car: Datrysiadau ar gyfer Ein Diwylliant sy’n Gaeth i’r Car
Cliciwch yma i fynd i wybodaeth am Car Sick gan Lynn Sloman
Finding the optimum: revenue/capital investment balance for sustainable travel
Mae’r addroddiad hwn yn cyflwyno tystiolaeth sy’n dangos bod defynddio cymysgedd o fuddsoddiad refeniew a chyfalaf yn arwain at canlyniadau gorau ar gyfer trafnidiaeth gynaliadwy ac yn fwyaf cost-effeithiol.
Comisiynwyd gan yr Adran Drafnidiaeth. (2014)
Cliciwch ar y llun i lawrlwytho (Saesneg yn unig) [8Mb]
Tuag at Gyfiawnder Trafnidiaeth: Trafnidiaeth a Chyfiawnder Cymdeithasol mewn Dyfodol lle mae Olew yn Brin
Rhoddodd yr adroddiad hwn sylw i bryderon ynglŷn â’r potensial ar gyfer ‘tlodi trafnidiaeth’ cynyddol yng ngoleuni prisiau olew cynyddol a’r posibilrwydd y daw olew yn barhaol brinnach. Fe ddadansoddodd sut gall opsiynau trafnidiaeth gynaliadwy helpu i atal allgáu cymdeithasol cynyddol wrth i gyflenwad olew ddod yn fwy cyfyngedig.
Comisiynwyd gan Sustrans. (2008)
Lawrlwytho: Towards Transport Justice: Transport and Social Justice in an Oil-Scarce Future (Saesneg yn unig) [pdf 1.18Mb]
Trafnidiaeth Gynaliadwy ar gyfer Cymru
Edrychodd y ddogfen hon ar yr hyn y gallai Llywodraeth Cynulliad Cymru ei wneud i greu system drafnidiaeth gynaliadwy a theg ar gyfer Cymru. Fe amlinellodd bolisïau i roi opsiynau i gwmnïau a’r cyhoedd fynd o amgylch eu busnes gan ddibynnu llai ar geir a lorïau. Dangosodd ei dadansoddiad ariannol fod 76% o wariant ar drafnidiaeth yng Nghymru ar hyn o bryd yn mynd ar ffyrdd, sef pwyslais sy’n anghyson ag ymrwymiad y Cynulliad i gynaliadwyedd.
Comisiynwyd yr adroddiad gan Sustrans Cymru i’w gyhoeddi ar yr un pryd â Strategaeth Drafnidiaeth ddrafft Llywodraeth Cynulliad Cymru. (2006)
Lawrlwytho: Fersiwn lawn o Sustainable Transport for Wales (yn Saesneg) [pdf 175kB]
Lawrlwytho: Fersiwn lawn o Cludiant Cynaliadwy ar gyfer Cymru (yn Gymraeg) [pdf 176kB]
Lawrlwytho: Fersiwn gryno o Sustainable Transport for Wales (yn Saesneg) [pdf 154kB]
Lawrlwytho: Fersiwn gryno o Cludiant Cynaliadwy ar gyfer Cymru (yn Gymraeg) [pdf 158kB]
Salwch Car: Datrysiadau ar gyfer Ein Diwylliant sy’n Gaeth i’r Car
Mae llyfr Lynn Sloman, sef Car Sick, yn achos angerddol, â dadleuon da o blaid symud i ffwrdd o gymdeithas sy’n canolbwyntio ar y car i un sy’n canolbwyntio ar y bobl. Trwy ddogfennu lle mae newid eisoes wedi’i gyflawni, mae’n dangos sut mae’n bosibl newid ein hymddygiad teithio.
Crynodeb:
Mae’r unfed ganrif ar hugain yn llawn tagfeydd. Mae modureiddio torfol wedi rhwygo rhwymau cymunedol, wedi achosi i ddegau o filoedd o siopau teuluol ddod yn fethdalwyr, ac wedi magu cenedl o blant ac oedolion gordew. Mae gwleidyddion yn baglu o un argyfwng trafnidiaeth i’r nesaf.
Mae Car Sick: Solutions for Our Car-addicted Culture yn cynnig ffordd wreiddiol ymlaen – nid trwy brosiectau peirianneg sifil ‘clec fawr’, ond trwy gael pobl i feddwl am eu dewisiadau, yn hytrach nag estyn am allweddi’r car. Mae’n dangos sut mae dad-fodureiddio’n gweithio: yn lle traffig, mae’n cynnig strydoedd cymdogol a chanol dinasoedd prysur. O drefi bach fel Winterthur yn y Swistir i ganol Llundain, mae dad-fodureiddio’n trawsnewid amgylchoedd trefol. Mae penderfyniad Copenhagen i greu strydoedd i gerddwyr yn unig yng nghanol y ddinas wedi ei gwneud yn theatr awyr agored, yn llawn dathlu ac ysblander, hyd yn oed yn y gaeaf. Nid oes angen i ni gael gwared â cheir yn llwyr. Yr hyn sydd ei angen yw newid ein ffordd o feddwl am deithio.
Adolygiadau:
Cars cause environmental destruction, provoke stress and tear the heart out of communities.Car Sick provides a page-turning account of how we got into this mess, and more importantly, charts an attractive way out. If you’ve got a car, read this book. It will change your views, and could change your life.
Tony Juniper, Cyn Cyfarwyddwr Gweithredol, Cyfeillion y Ddaear
Lynn Sloman has played a key role in making London the only major city in the world to achieve a ‘modal shift’ from car usage to buses, cycling and walking, and her fascinating new book makes an important contribution to the debate about where we go next.
Ken Livingstone, Cyn Faer Llundain
Transport isn’t working.Car Sick shows why, and sets out clearly what the answers are. A must-read for everyone interested in transport.
Stephen Joseph, Cyfarwyddwr Gweithredol, Campaign for Better Transport
Lynn Sloman is known for her serious and careful studies of the impacts of transport policy initiatives.In this book she does something new: she treats changes in travel behaviour from the point of view of the individual and family. Her characters are real, named people – her friends, and neighbours, and associates - who live the pressures and constraints of everyday life in a car-dependent culture. She traces what happens when they have sought ways of leading a good life without a car, or using a car sparingly. This is transport planning with a human scale, with a necessary, thought-provoking and encouraging message.
Yr Athro Phil Goodwin, Athro Polisi Trafnidiaeth, Canolfan Trafnidiaeth a Chymdeithas, Prifysgol Gorllewin Lloegr
Manylion archebu:
ISBN 1 903998 76 X
£10.95 clawr papur
190 o dudalennau
Wedi’i gyhoeddi gan Green Books
Ar gael trwy: http://www.guardian.co.uk/bookshop neu http://www.amazon.co.uk neu http://greenbooks.co.uk