English

Cynllunio – Sut i Gyflawni Trafnidiaeth Gynaliadwy mewn Datblygiadau Newydd

 

Thriving Cities cover image

Thriving Cities: Integrated Land Use and Transport Planning.

Mae’r adroddiad hwn yn dogfennu astudiaethau achos o’r DU, yr Almaen a Sweden gan ddangos y budd yn sgil integreiddio gwaith cynllunio trafnidiaeth a gwaith cynllunio defnydd tir, a’r problemau yn sgil peidio â’u hintegreiddio. Mae’n adolygu'r ffactorau sydd, yn y bôn, yn pennu ymddygiad teithio, ac mae'n cynnig tair rheol euraidd ar gyfer polisi cynllunio cenedlaethol.

Cyflawnwyd ar ran pteg. (2011)

Lawrlwytho:  Thriving Cities: Integrated Land Use and Transport Planning (Saesneg yn unig) [pdf 3 Mb]

 

Masterplanning Checklist for Sustainable Transport coverRhestr Wirio Uwchgynllunio ar gyfer Trafnidiaeth Gynaliadwy mewn Datblygiadau Newydd

Asesodd y prosiect hwn y polisïau uwchgynllunio sy’n ofynnol i gyflawni patrymau teithio cynaliadwy mewn Ardaloedd Twf Tai.  Adolygwyd ymchwil academaidd a swyddogol i ddwyn tystiolaeth ynghyd o sut mae gwahanol newidynnau cynllunio, e.e. agosatrwydd at wasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus, yn effeithio ar ymddygiad teithio.  Mae’r adroddiad yn defnyddio’r rhestr wirio uwchgynllunio ddilynol ar gyfer trafnidiaeth gynaliadwy er mwyn asesu arfer a pholisi yn Ardal Porth Afon Tafwys.

Cyflawnwyd ar ran Campaign for Better Transport. (2008)

Lawrlwytho: Masterplanning Checklist for Sustainable Transport in New Developments (Saesneg yn unig) [pdf 795kB]