Trafnidiaeth a Newid Hinsawdd
Public Transport fit for the Climate Emergency
Mae'r adroddiad hwn ar gyfer y TUC yn nodi cynllun buddsoddi i wella trafnidiaeth gyhoeddus ar y raddfa sydd ei hangen i bobl newid o ddefnyddio ceir yn unol â thargedau allyriadau ar gyfer yr Argyfwng Hinsawdd.
Mae’n dangos bod angen i wariant cyfalaf gynyddu tua £10bn y flwyddyn, a bod angen i wariant gweithredu gynyddu tua £19bn y flwyddyn. Mae'r adroddiad yn cyfrifo y byddai'r cynnydd hwn mewn gwariant yn cynhyrchu cynnydd mewn CMC o tua £50bn y flwyddyn, sy'n llawer mwy na'r costau. Mae’n amcangyfrif y byddai bron i filiwn o swyddi ychwanegol yn cael eu cynhyrchu’n uniongyrchol yn y diwydiannau trafnidiaeth ac adeiladu, gyda dwywaith y nifer hwnnw’n cael eu cynhyrchu’n anuniongyrchol.
Public Transport fit for the Climate Emergency
Carbon, mode shift and demand reduction analysis for Wales Transport Strategy
Comisiynodd lywodraeth Cymru Drafnidiaeth er Bywyd o Safon ac Arup i asesu lefel y targedau newid modd sy'n ofynnol yn Strategaeth Drafnidiaeth Cymru, Llwybr Newydd (2021) er mwyn cwrdd ag ymrwymiadau newid hinsawdd. Asesodd yr adroddiadau’r bwlch carbon y bydd angen ei lenwi trwy fesurau eraill y tu hwnt i drydaneiddio teithio mewn car, ystyried y gostyngiadau carbon posibl y gellir eu cyflawni o deithio llesol a thrafnidiaeth gyhoeddus, ac asesu sut y bydd angen ategu buddsoddiad mewn teithio egnïol a thrafnidiaeth gyhoeddus gan mesurau rheoli galw fel codi tâl ar ddefnyddwyr ffyrdd. Roedd papurau pellach yn cyflwyno targedau rhannu modd posib ac yn ystyried ffyrdd y gellir cynllunio mesurau rheoli galw fel 'pecynnau buddion-a-thaliadau' er mwyn ennill cefnogaeth y cyhoedd a galluogi arweinwyr gwleidyddol i'w eirioli.
Dim ond yn Saesneg y mae'r papurau (isod) ar gael
Reducing the carbon gap Active travel CO2 savings Public transport CO2 savings
Mode share targets for Wales Road user benefits-and-charges packages
Gofynnodd Cyfeillion Y Ddaear Trafnidiaeth er Bywyd o Safon i gynhyrchu cyfres o bapurau ynghylch y newidiadau sydd eu hangen ym mholisi trafnidiaeth ar gyfer y DU i gyflawni ei gyfran deg o doriadau allyriadau carbon. Erbyn hyn, trafnidiaeth yw'r prif gyfranwr yn y DU i newid yn yr hinsawdd sy'n bygwth canlyniadau amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd sy'n drafferthus iawn, ac mae'r angen am newid yn y broses o lunio polisïau trafnidiaeth yn fater brys. Mae'r dybiaeth swyddogol bod newidiadau cynyddrannol i fusnes-fel-arfer yn ddigon yn anghynaladwy.
Mae’r papurau hyn yn cymryd ymagwedd wahanol, gan gydnabod graddfa lawn yr her a chyflwyno syniadau am ddewisiadau eraill beiddgar a dychmygus, hyd yn oed os yw y’r rhain y tu allan i’r ‘comfort zone’ swyddogion a gweinidogion y llywodraeth ac nad ydynt eto’n rhan o’r drafodaeth swyddogol.
Photo credit Marcus Spiske on Unsplash. Ar hyn o bryd dim ond yn Saesneg y mae'r papurau (isod) ar gael.
Briefing 1: More than electric cars - Why we need to reduce traffic to reach carbon targets
Briefing 2: Transforming public transport - Regulation, spending and free buses for the under 30s
Briefing 3: Planning for less car use
Briefing 4: Segregated cycleways and e-bikes - The future of urban travel
Briefing 5: Getting the Department for Transport on the right track
Briefing 7: Transforming transport funding to meet our climate targets
Briefing 8: A radical transport response to the Climate Emergency
Briefing 9: A net zero carbon budget for the whole transport sector
Activists' Briefing: Making transport fit for the Climate Emergency
Mae'r briff hwn yn nodi pecyn cyflawn ar gyfer polisi trafnidiaeth sy'n gwbl ymarferol, yn seiliedig ar arfer gorau'r byd, ond hefyd ar raddfa a dyfnder sy'n cyfateb i ddifrifoldeb a brys yr Argyfwng Hinsawdd.
Gobeithiwn y bydd hyn yn grymuso pawb sy'n poeni am yr Argyfwng Hinsawdd ac sydd mewn sefyllfa i weithredu yn eu hardal - p'un ai fel gweithredwyr Cyfeillion y Ddaear, cynghorwyr lleol, neu swyddogion llywodraeth leol.
Activists' Briefing: Making transport fit for the Climate Emergency
Polisi Trafnidiaeth Cymru sy'n addas i'r Argyfwng Hinsawdd
Mae'r papur ychwanegol hwn yn dadlau bod angen i wneuthurwyr polisïau Cymru feddwl o'r newydd am bolisïau trafnidiaeth yng ngoleuni'r argyfwng hinsawdd.
Mae'n ceisio mynd i'r afael â'r cyfleoedd a'r heriau penodol i Gymru, cyn y bydd Strategaeth Drafnidiaeth Cymru newydd yn cael ei gyflwyno yn ystod 2020.
Mae newidiadau technolegol yn angenrheidiol ond nid ydynt yn ddigon i gyflawni'r lleihad sylweddol, cyflym yn allyriadau carbon sydd ei angen arnom.
Polisi Trafnidiaeth Cymru sy'n addas i'r Argyfwng Hinsawdd (fersiwn Gymraeg)