English

Ein Tîm

Mae ein tîm yn arbenigo mewn dadansoddi polisi trafnidiaeth yn strategol, ac mae’n gwybod am sut i greu a hyrwyddo dewisiadau teithio cynaliadwy yn ymarferol. Mae ein partneriaethau ag ymgynghorwyr annibynnol a sefydliadau academaidd yn ein galluogi i ddwyn tîm ynghyd sydd â phrofiad penodol i fynd i’r afael â’ch prosiect.  

Lynn Sloman, Cyfarwyddwr

Lynn Sloman

Mae Lynn yn arbenigwr a gydnabyddedig yn genedlaethol mewn dylunio a gwerthuso rhaglenni buddsoddi mewn trafnidiaeth gynaliadwy. Mae hi wedi arwain niver o astudiaethau gwerthuso arloesol, yn cynnwys gwerthuso y rhaglenni’r Adran Drafnidiaeth (Lloegr) Local Sustainable Transport Fund, Cycling City Ambition a Sustainable Travel Towns. Mae Lynn yn aelod o'r Bwrdd Transport for London, yn Gadeirydd Panel Adolygu Ffyrdd Llywodraeth Cymry, ac yn Is-Gadeirydd Bwrdd Cyflenwi 'Burns' (sydd yn gweithredu argymhellion Comisiwn Trafnidiaeth De-Ddwyrain Cymru Llywodraeth Cymru ar gyfer rhywdwaith trafnidiaeth gynaliadwy).  Roedd yn aelod o'r Panel o Arbenigwyr yr Adran Trafnidiaeth (Lloegr) a gynghorodd gweinidogion ynglyn a’r Gronfa Drafnidiaeth Gynaliadwy Leol £600 miliwn. Fel aelod o Fwrdd Cycling England rhwng 2001 a 2011, helpodd sefydlu'r rhaglen Trefi Arddangos Seiclo / Dinas a Threfi Seiclo, a chadeirodd grŵp traws-lywodraeth i werthuso effaith y rhaglen. Roedd yn aelod ac wedyn Is-Gadeirydd y Comisiwn dros Drafnidiaeth Integredig rhwng 2005 a 2010, a Chadeirydd y Campaign for Better Transport rhwng 2014 a 2016.

Ian Taylor, Cyfarwyddwr

Ian Taylor

Ymunodd Ian â Thrafnidiaeth er Bywyd o Safon yn 2003. Mae’n arwain ymchwil Trafnidiaeth er Bywyd o Safon ar ffyrdd o wella gyfundrefnau bysiau a rheilffyrdd Prydain, ac wedi gweithio ar gyfer swyddfa’r Shadow Secretary of State for Transport er mwyn arwain datbylgiad polisi Plaid Llafur ynglyn a’r rheilffyrdd a materion trafnidiaeth eraill. Roedd Ian yn prif awdur adroddiadau Thriving Cities a Masterplanning Checklist ar integreiddio cynllunio a thrafnidiaeth gynaliadwy, a rhwng 2010 a 2017 darlithiodd i gyrsiau bensaernïaeth MSc a Diploma Proffesiynol. Mae ei gwaith arall wedi cynnwys dylunio a gwerthuso rhaglenni trafnidiaeth gynaliadwy ar gyfer yr Adran Drafnidiaeth (Lloegr) ac awdurdodau lleol. Roedd Ian gynt: rheolwr gwasanaethau ymgynghorol amgylcheddol ar gyfer Canolfan y Dechnoleg Amgen; cynghorydd gwleidyddol gwyddonol ar gyfer Greenpeace; ymgyrchydd dros Oxfam.

Carey Newson, Cydymaith 

Carey Newson

Arbenigwr newid ymddygiad yw Carey Newson, a bu’n chwarae rôl ddiffiniol wrth ddatblygu gwaith cynllunio teithio’r DU. Gan dynnu ar brofiad rhyngwladol a gweithio’n agos gyda rhwydweithiau o ymarferwyr arloesol y DU, bu’n ymchwilio i’r canllaw cenedlaethol cynhwysfawr cyntaf ar gynllunio teithio ar gyfer y gweithle, yr ysgol, hamdden a phreswylfeydd. Mae’n seicolegydd amgylcheddol ac yn tynnu ar ddamcaniaeth seicolegol a’i gwybodaeth ehangach o fentrau’r DU, er mwyn cynghori ar ymyriadau newid ymddygiad. Bu Carey gynt yn gyfarwyddwr cynorthwyol Transport 2000, sef Campaign for Better Transport bellach. Mae ganddi fwy na degawd o brofiad ym maes newid ymddygiad amgylcheddol.

Jillian Anable, Cydymaith 

Jillian AnableMae Jillian wedi bod yn gydymaith Trafnidiaeth er Bywyd o Safon ers 2008. Mae'n Athro Cludiant ac Ynni ym Mrifysgol Leeds Institute for Transport Studies, lle mae ei hymchwil yn ymchwilio i'r materion cymdeithasol ac ymddygiadol sy'n rhwystro lleihau'r defnydd o geir a'i effeithiau. Datblygodd Jillian deipoleg arloesol o seicoleg ac arferion modurwyr, ac ymysg diddordebau ymchwil eang, mae wedi gwneud gwaith ymchwil ar effeithiau newid hinsawdd o gludiant ar gyfer y Comisiwn dros Drafnidiaeth Integredig. Roedd Jillian yn flaenorol yn Athro Trafnidiaeth a Galw Ynni ym Mhrifysgol Aberdeen.

Beth Hiblin, Cydymaith

Beth_Hiblin_pic

Dechreuodd Beth ei gyrfa fel Ymgynghorydd Teithio i'r Ysgol ac wedyn Rheolwr Travelchoice, prosiect Tref Teithio Cynaliadwy Peterborough, felly mae hi'n gwybod yn uniongyrchol beth sydd ei angen i newid dewisiadau teithio pobl. Yn fwy diweddar gweithredodd Beth fel rheolwr dros dro i gyflawni y camau cychwynnol dau brosiect Local Sustainable Transport Fund, Go Lakes Travel (Ardal y Llynnoedd) a Two National Parks LSTF (New Forest a South Downs). Mae hi hefyd wedi cronni gwybodaeth am y ffyrdd gorau i newid ymddygiad teithio drwy gwerthuso rhaglenni megis Connected (Derby LSTF), trwy ymchwil o'r Cycling Demonstration Towns ar gyfer Cycling England er mwyn yr adroddiad Making a Cycling Town a thrwy ysgrifennu Local Sustainable Transport Annual Reports ar gyfer yr Adran Drafnidiaeth.

Phil Goodwin, Cydymaith

Phil_Goodwin_pic

Phil yw’r Athro Emeritws yng Ngholeg Prifysgol Llundain a Phrifysgol Gorllewin Lloegr. Roedd gynt yn Gyfarwyddwr y grwpiau ymchwil i drafnidiaeth ym Mhrifysgol Rhydychen a Choleg Prifysgol Llundain, a bu’n arwain rhaglen deng mlynedd ar ‘Newid Ymddygiad Teithio’ y ganolfan ragoriaeth ddynodedig a dderbyniodd gymorth y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol. Bu’n gynlluniwr trafnidiaeth yng Nghyngor Llundain Fwyaf, yn Gyfarwyddwr Anweithredol Porthladd Dover, ac yn gynghorydd i asiantaethau llywodraeth leol, genedlaethol a rhyngwladol, gan gynnwys y Pwyllgor Ymgynghorol Sefydlog ar Arfarnu Cefnffyrdd (SACTRA) 1990-1999 a'r panel ymgynghorol ar Bapur Gwyn Trafnidiaeth 1998 y bu’n ei gadeirio.  Bu Phil yn Brif Olygydd dau gyfnodolyn academaidd cenedlaethol blaenllaw: Transport Policy, a sefydlwyd ganddo, a Transportation Research, Policy and Practice.

Anna Goodman, Cydymaith

Anna_Goodman_pic

Mae Anna Goodman yn ddarlithydd ar gyfer Adran Iechyd Poblogaeth yn Ysgol Hylendid a Meddygaeth Drofannol Llundain. Mae ei hymchwil yn canolbwyntio ar y croesdoriad rhwng iechyd cyhoeddus, cydraddoldeb iechyd a chynaliadwyedd amgylcheddol, efo ffocws ar drafnidiaeth gynaliadwy. Mae ganddi ddiddordeb ymchwil arbennig mewn potensial i ddefnyddio dynluniadau arbrofol naturiol er mwyn gwerthuso canlyniadau ac effeithiau cydraddoldeb ymyriadau ar lefel poblogaeth ar raddfa fawr. Mae hi wedi gweithio efo Trafnidiaeth er Bywyd o Safon ar werthusiadau o’r fath ynglyn a rhaglenau yr Adran Trafnidiaeth 'Local Sustainable Transport Fund', 'Cycling Cities Ambition' a 'Tranforming Cities'. Mae hi wedi bod yn cydweithio efo Trafnidiaeth er Bywyd o Safon ers 2014, ac ymunodd fel cydymaith yn 2015. 

Lisa Hopkinson, Cydymaith

Lisa_Hopkinson_pic

Mae Lisa Hopkinson yn ymchwilydd amgylcheddol. Mae hi wedi cyd-ysgrifennu nifer o gyhoeddiadau yn ymwneud â thrafnidiaeth gynaliadwy, llygredd aer a newid hinsawdd, yn cynnwys Zero Carbon Britain - Making it Happen ar gyfer y Ganolfan Dechnoleg Amgen, a chyfres o adroddiadau i Gyfeillion y Ddaear ar lleihau allyriadau carbon trafnidiaeth. Mae hi wedi gweithio efo Trafnidiaeth er Bywyd o Safon ar wethuso y Local Sustainable Transport Fund, Cycling Cities Ambition programme and Transforming Cities Fund ar gyfer yr Adran Drafnidiaeth. Maen hi'n golofnydd rheolaidd ar gyfer y cyfnodolyn Smart Transport. Mae hi’n weithgar mewn ymgyrchoedd a phrosiectau lleol i hyrwyddo teithio byw a chynaliadwy. Ymunodd Lisa a Thrafnidiaeth er Bywyd o Safon yn 2016. 

Sally Cairns, Associate

Lisa_Hopkinson_pic

Mae Sally wedi ymchwilio i bolisi trafnidiaeth, lleihau traffig a newid ymddygiad teithio ers dros 25 mlynedd. Ar hyn o bryd mae hi’n Uwch Gymrawd Ymchwil i University College London a Chynghorydd i Campaign for Better Transport. Roedd hi gynt yn gweithio fel Prif Ymchwilydd i Transport Research Laboratory, efo eileiddau i’r Strategic Rail Authority a’r Sefydliad Ymchwil Cenedlaethol Gwyddoniaeth Heddlu yn Japan. Mae ei phynciau ymchwil wedi cynnwys: mesurau i reoli’r galw am deithio (yn enwedig cynlluniau teithio gweithle, cynlluniau teithio ysgol a strategaethau teithio cynaliadwy tref-eang); polisi hedfan a hinsawdd; siopa gartref; telegynadledda; effeithiau cwtogi lle ar y fyrdd ar gyfer cerbydau; opsiynau eraill i ddefnydd confensiynol ceir (yn cynnwys llogi, clybiau ceir, rhannu ceir a thacsis); a hyrwyddo cerdded a seiclo (yn cynnwys beiciau a chymorth trydan).

John Stewart, Associate

John_Stewart_pic

Mae gan John Stewart hanes hir a disglair o weithio ar ran cymunedau i gael trafnidiaeth gynaliadwy i’w gwasanaethu’n well. Ar hyn o bryd mae’n ymddiriedolwr Campaign for Better Transport, cadeirydd Heathrow Association for the Control of Aircraft Noise (HACAN), cadeirydd Noise Association, a chyfarwyddwr Good Journey. Mae'n is-gadeirydd UECNA (sy'n cynrychioli grwpiau cymunedol o gwmpas meysydd awyr Ewropeiadd) ac yn aelod o'r Grwp Arbenigol Swn yr Undeb Ewropeiadd. Roedd John yn ymgyrchydd allweddol yn erbyn y llif o broseictau adeiladu ffyrdd yn yr 1980au a 1990au, yn sefydlu a chadeirio yr ymgyrch genedlaethol i atal adeiladu ffyrdd, ALARM UK. Roedd o gynt cadeirydd RoadPeace a chadeiriodd Slower Speeds Initiative. Mae'n awdur Why Noise Matters (cyhoeddwyd gan Earthscan yn 2011). Yn 2008 pleidleisiodd yr Independent on Sunday John “The UK’s most effective environmentalist”.

Alistair Kirkbride, Associate

Alistair_Kirkbride_pic

Mae Alistair Kirkbride yn gweithio ar ei liwt ei hun ac mae'n ymgyrchydd lleol. Ei ddiddordeb arbennig yw sicrhau mynediad teg a chludiant cynaliadwy mewn ardaloedd gwledig. Mae'n cael ei gydnabod am ei arbenigedd a'i brofiad ar deithio ymwelwyr mewn parciau cenedlaethol a theithio hamdden yn fwy cyffredinol. Mae'n gweithio ar bob graddfa, yn cynnwys cynlluniau cymunedol lleol, strategaeth awdurdodau trafnidiaeth a datblygu polisi cenedlaethol. Yn ddiweddar, mae wedi canolbwyntio ar gyflawni'r buddion o gyfuno trafnidiaeth, 'profiad ymwelwyr' a hamdden egnïol. Yn flaenorol, roedd Alistair yn Gyfarwyddwr Gweithredol yr elusen genedlaethol ar gyfer trafnidiaeth a rennir, CoMoUK. Cyn hynny roedd yn Gynghorydd Trafnidiaeth Gynaliadwy ar gyfer Awdurdod Parc Cenedlaethol Ardal y Llynnoedd, lle bu’n arwain datblygiad rhaglen Cronfa Cludiant Cynaliadwy Lleol Ardal y Llynnoedd a datblygu ei strategaeth symud gofodol. Mae'n ymddiriedolwr sefydlu Rhwydwaith Symudedd Cumbria.